GWEINIDOGION Y DU SY’N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG

 

 

010- Rheoliadau Etholiadau Senedd Ewrop (Diwygio a Dirymu) (Y Deyrnas Unedig a Gibraltar) (Ymadael â’r UE) 2022

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 5 Gorffennaf 2022

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Ydy

Gweithdrefn:

Negyddol Arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Dyddiad y daw’r cyfnod sifftio yn Senedd y DU i ben

20 Gorffennaf

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys

Gweithdrefn

Anhysbys

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Cefndir

Cynigir bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) ac adran 24(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Crynodeb

Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro diffygion yn y gyfraith ddomestig drwy hepgor cyfeiriadau diangen at etholiadau Senedd Ewrop, pleidiau gwleidyddol Ewropeaidd a sefydliadau gwleidyddol Ewropeaidd, mewn amrywiol ddarnau o ddeddfwriaeth ddomestig. Gan nad yw’r Deyrnas Unedig bellach yn Aelod-wladwriaeth o’r UE, nid oes gofyn i ddeddfwriaeth ddomestig gyfeirio at etholiadau’r UE, pleidiau gwleidyddol yr UE a sefydliadau gwleidyddol yr UE.

 

Datganiad gan Lywodraeth Cymru

Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â’r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, dyddiedig 5 Gorffennaf 2022, ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Fodd bynnag, nid yw’n glir pam na wnaethpwyd y newidiadau sy’n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn ystod 2018/2019, pan gafodd y rhan fwyaf o’r diffygion sy’n ymwneud ag ymadael â’r UE eu cywiro.

 

Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith. Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.